SL(5)222 – Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru (a gasglwyd ar eu rhan gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ym maes iechyd anifeiliaid ac yn disodli'r ffioedd presennol a nodir yn Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer ffioedd i fod yn daladwy mewn perthynas â:

-     gweithgareddau o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 ar reoli salmonella ac asiantau milheintiol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd (Rheoliad 4);

-     cymeradwyaeth at ddibenion y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/ EC ar gyflyrau iechyd anifeiliaid o ran masnachu ac mewnforion o drydydd gwledydd dofednod ac wyau deor a Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (Rheoliad 5);

-     cymeradwyaethau at ddibenion cael semen buchol yn unol â Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (Rheoliad 6);

-     cymeradwyaeth at ddibenion cael semen moch yn unol â Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (EEC) 1992 (Rheoliad 7);

-     cymeradwyaethau at ddibenion casglu, cynhyrchu a throsglwyddo embryonau buchol yn unol â Rheoliadau Embryo Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (Rheoliad 8); ac

-     arolygu llwythi anifeiliaid byw mewn arolygfeydd ffin yn unol â Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (Rheoliad 9).

Mae'r lefelau ffioedd y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau yn adlewyrchu adennill costau ffioedd yn llawn ac mae rhai o'r ffioedd wedi cynyddu o'r ffioedd presennol.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae Rheoliadau 4 a 5 yn codi o rwymedigaethau'r UE o dan Reoliad yr UE 2160/2003 a Chyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC yn y drefn honno. Mae'r Rheoliadau eraill y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn (gweler adran Cefndir a Diben yr adroddiad hwn) hefyd yn deillio o rwymedigaethau'r UE. Felly, bydd y Rheoliadau hyn yn rhan o gyfraith yr UE a gedwir ar ôl diwrnod gadael yr UE.

Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod "iechyd ac olrhain anifeiliaid" yn faes polisi sy'n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau cymal 15 o dan Fil yr UE (Ymadael). Felly, mae'r gyfraith sy'n perthyn i'r Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE sy'n cael ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

7 Mehefin 2018